Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2015 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 08.53 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr Wythnos Hon
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mawrth a dydd Mercher.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai’r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad yn cael eu trefnu ar gyfer 23 Medi, a bob pedair wythnos fusnes ar ôl hynny. Mae hyn er mwyn creu gwell cydbwysedd o ran busnes o ystyried yr amserlen y flwyddyn nesaf ar gyfer Cwestiynau Llafar y Cynulliad, drwy gynnal y cyswllt rhwng cwestiynau’r Comisiwn a chwestiynau’r Cwnsler Cyffredinol.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a
chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 23 Medi 2015
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ystyried Deiseb - Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
4 Y Gyllideb
4.1 Cyllideb Llywodraeth Cymru 2016-17
Ystyriodd y Rheolwyr Busnes lythyr gan y Gweinidog Busnes y
Llywodraeth oedd yn nodi dyddiadau arfaethedig ar gyfer cyhoeddi
Cyllideb Ddrafft 2016-17. Fodd bynnag, o ystyried yr ansicrwydd
ynghylch amseriad cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar ei Hadolygiad o
Wariant, rhoddodd y Gweinidog wybod i’r Rheolwyr Busnes y
byddai’n anodd ar hyn o bryd i gadarnhau amserlen Cyllideb
2015 gyda sicrwydd.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid gyda
dyddiad cau arfaethedig, sef 19 Ionawr 2016, i’r Pwyllgor
Cyllid gyflwyno adroddiad ar y gyllideb ddrafft.
5 Deddfwriaeth
5.1 Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor, ar 23 Mehefin, i gyfeirio’r Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) i’r Pwyllgor Cyllid ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd ar y dyddiad cau ar gyfer adroddiad y Pwyllgor yng Nghyfnod 1, sef 27 Tachwedd 2015, a’r dyddiad cau ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2, sef 5 Chwefror 2016.
6 Y Rheolau Sefydlog
6.1 Adolygu Rheolau Sefydlog y Cynulliad
Ystyriodd y Rheolwyr Busnes bapur a oedd yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran y gwahanol adolygiadau o Reolau Sefydlog y Cynulliad hyd yma.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid gohirio cynnal adolygiad
o’r Rheolau Sefydlog ar Fraint nes bydd y Bil Cymru wedi
cwblhau ei daith seneddol.
Bu’r Pwyllgor hefyd yn ystyried a oedd unrhyw feysydd eraill o’r Rheolau Sefydlog yr hoffai eu hadolygu cyn diwedd y Pedwerydd Cynulliad. Dywedodd, yn ychwanegol at unrhyw faterion a amlygwyd gan adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ddeddfu (sydd i gael ei gyhoeddi yn yr hydref), yr hoffai edrych ar faint a rôl y pwyllgorau.
Mae’r Rheolwyr Busnes yn bwriadu trafod y papur gyda’u grwpiau, ac edrych ar y mater eto yng nghyfarfod cyntaf tymor yr hydref.
7 Y Cyfarfod Llawn
7.1 Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad yr Haf
Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau cyflwyno arfaethedig ar gyfer toriad yr haf.
Unrhyw Fater Arall
Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y byddai’r gloch yn canu am 11.30 fore dydd Mawrth, ar gyfer munud o dawelwch, i nodi deng mlynedd ers y bomio yn Llundain ar 7/7.